Ymateb Grŵp Cynhesrwydd Cynaliadwy,  sydd yn cynrychioli  Cyngor Gwynedd a Chymdeithasau Tai yng Ngwynedd, i archwiliad Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd <http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgCommitteeDetails.aspx?ID=225>ar Effeithlonrwydd Ynni a Thlodi Tanwydd yng Nghymru. Mae’r Grŵp yn atebol i Bartneriaeth Tai Gwynedd sydd yn cynrychioli'r maes tai yng Ngwynedd.

http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgConsultationdisplay.aspx?Id=127

Mehefin 2014

Fel rhan o strategaeth LLC i ddelio gyda thlodi tanwydd gosodwyd targed heriol i ddileu tlodi tanwydd mewn tai cymdeithasol erbyn 2012 ac yng Nghymru gyfan erbyn 2018. Mae’r cynlluniau a weithredir gan LLC yn cyfrannu tuag at gyflawni’r targed hwn. Mae Cyngor Gwynedd a’r Cymdeithasau Tai Lleol wedi bod yn rhan o’r cynlluniau hyn.

 

Mae Nyth ac Arbed wedi helpu gwella effeithlonrwydd ynni o fewn tai cymdeithasol a phreifat dros y blynyddoedd diwethaf yn ogystal â rhoi cyfleoedd gwaith / hyfforddai yn lleol.

 

Rydym yng Ngwynedd wedi llunio cyfres o adroddiadau i gasglu a chyflwyno gwybodaeth am ddata tai er mwyn sicrhau bod modd targedu ardaloedd penodol pan fo cyfleoedd ar gael i fuddsoddi yn y stoc  o ran effeithlonrwydd ynni.

Un ohonynt yw gwaith adnabod tlodi tanwydd yn y Sir. Prif ganlyniadau’r gwaith hwn yw:

 

Enghraifft arall yw cydweithio gyda Phrifysgol Caerdydd er mwyn cael cynsail ar gyfer datblygu strategaeth i ddelio gydag eiddo sydd ddim yn ynni effeithlon.

Crëwyd model oedd yn dangos cyflwr y stoc bresennol ar sail gwybodaeth roedd ar gael drwy Dystysgrifau Perfformiad Ynni (‘EPC’) gan eu rhannu i ardaloedd. Gellir cymharu math o eiddo neu ardal benodol er mwyn cael gwybodaeth am fesuriadau a chostau posib gwella’r stoc.

Nyth

Mae gennym berthynas weithio dda hefo’r Swyddog Maes Nyth ac mae’r isod yn dangos nifer o gyfeiriadau sydd wedi bod er mwyn helpu pobl sydd ar fudd daliadau

Gwynedd            Nifer o gyfeiriadau

2011-2012            222

2012-2013            726

2013-2014            453

Arbed

Mae Gwynedd wedi bod yn llwyddiannus gyda cheisiadau Arbed, golygodd bod Arbed 1 yn targedu tai cymdeithasol gyda’r canlynol yn cael ei osod gan Gymdeithas Tai Eryri, Cartrefi Cymunedol Gwynedd a Thai Gogledd Cymru:

•             Fesurau PV - 138

•             Eiddo wedi insiwleiddio’n allanol - 130

•             10 air source heat pump

•             15 solar thermal               

•             53 o fflatiau wedi cael cyflenwad nwy

•             24 lleoliad gwaith gyda 2 yn swyddi parhaol bellach

•             6 contractwyr wedi derbyn archediad

•             Wedi llwyddo tynnu mewn £3.3 miliwn o grant

Roedd Arbed 2 Cylch 1 wedi ei dargedu tuag at stoc breifat ac yn dilyn cais llwyddiannus cwblhawyd gwaith yn Nantlle yn ystod 2013. Gweler y daflen astudiaeth achos am ragor o wybodaeth

Mae gwaith ar gychwyn yn dilyn cais llwyddiannus ar gyfer Arbed 2 Cylch 2 yn ardaloedd Carmel ac Y Fron.

Rydym yn disgwyl ymateb LLC i Arbed 2 Cylch 3 ar gyfer ardal Deiniolen.

Bu trigolion yr ardaloedd hyn yn rhan o waith ymchwil gan LLC i asesu effaith Arbed ar iechyd corfforol a meddyliol preswylwyr yr ardal hon. Rydym yn edrych ymlaen at gael gweld canlyniadau’r holiaduron hyn.  Byddem yn croesawu cydweithio gyda LLC i asesu effaith y mesuriadau hyn er mwyn sicrhau bod trigolion yn defnyddio’r mesuriadau yn gywir ac er mwyn eu cadw allan o dlodi tanwydd.

Y Fargen Werdd

Rydym yn ymwybodol bod nifer isel o drigolion wedi cymryd rhan yn y Fargen Werdd, dyma ffigyrau sydd gennym ar ddechrau’r flwyddyn ar gyfer nifer o asesiadau yn 2013: 

Arfon    73           Dwyfor  a Meirionnydd      24

Yn sgil y nifer isel sydd wedi cymryd y Fargen Werdd yn genedlaethol mae DECC wedi cyhoeddi cynllun sy’n rhoi mwy o gymorth i bobl allu cael mesuriadau ynni. Mae’n ymddangos mai dim ond bwyleri nwy all gael ei osod. Mae hyn yn rhoi ardal wledig fel Gwynedd dan anfantais lle ceir nifer uchel o dai anodd i’w trin. Mae Cynllun LLC yn 2001 yn cydnabod:

‘Wales’ housing stock currently has a relatively poor energy performance. There are a large number of solid wall homes and many rural properties in Wales are dependent on oil, coal, electric or liquefied petroleum gas for central heating. (WG, 2011, Tud.4)’

Mae gwaith ymchwil a wnaed ar ran y Grŵp yn ddiweddar yn dangos nad yw trigolion yn ymwybodol o’r Fargen Werdd.

Ffynhonnell: Prosiect GAE (Prosiect Ymchwil Gweithredol Cymunedol, Mai 2014)

Un o brif argymhellion y gwaith ymchwil yn dilyn cynnal ymgynghoriad gyda grwpiau lleol yng Ngwynedd yw gwybodaeth hawdd i’w ddeall sydd yn cael ei roi gan sefydliadau dibynadwy lleol.

Roedd y Cyngor yn ffodus i gael arian drwy grant gan LLC ‘Cynyddu cyfleoedd ECO yng Nghymru’ yn ystod 2013-14 i allu datblygu fframwaith ECO ar gyfer y Sir. Bwriad y fframwaith hwn yw denu cwmnïau ynni i gydweithio hefo ni i dargedu'r ardaloedd sydd angen mesuriadau effeithlonrwydd ynni ynghyd a rhoi ceisiadau am arian i LLC drwy'r grant uchod yn ystod 2014-15,20415-16 mewn sefyllfa gryfach. Rydym yn croesawu'r ymrwymiad ariannol hwn gan LLC er mwyn cynyddu’r gwaith ECO yn y Sir. Roedd amserlen cyflwyno ceisiadau ac amodau hawlio’r grant yn hynod o dynn yn ystod 2013-14 ac mae’r penderfyniad i gael cyfres o ddyddiadau yn ystod y flwyddyn hon i gyflwyno ceisiadau i’w croesawu.

Tra mae posib i Gynghorau gydweithio i ddatblygu dulliau ar gyfer denu ECO i’w Siroedd tybed a fyddai LLC wedi gallu cymryd rôl fwy canolog er mwyn datblygu fframwaith ar gyfer Cymru gyfan a fyddai wedi golygu bod y cwmnïau a Chynghorau mewn sefyllfa well i wneud gwaith yn gynt, yn hytrach na gorfod rhoi pwyslais ar drefn caffael unigol, a all fod yn llafurus.

Rydym yn ymwybodol bod y newidiadau yn ystod Hydref 2013 i dargedau ECO wedi golygu bod  cwmnïau ynni wedi cerdded i ffwrdd o drafodaethau gyda Chymdeithasau Tai yn y Sir. Yn amlwg mae hyn wedi cael effaith ar nifer o dai all cael eu trin.